Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1080

Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1084
BWRW CWCH I’R DŴR | Papur Dre

BWRW CWCH I’R DŴR

image

Cyfle i fwynhau’r Fenai

Cynhaliwyd diwrnod agored gan y Clwb Iotio (Porth yr Aur) yn ddiweddar. A ninnau’n byw ar lan y Fenai, bwriad ‘Bwrw Cwch i’r Dŵr / Push the Boat Out’ oedd ceisio denu mwy o bobl leol i ymddiddori mewn hwylio a rhwyfo. Hwn oedd y tro cyntaf i’r clwb gynnal gweithgaredd o’r fath ac roedd yr ymateb yn hynod o dda. Ar ddydd Sadwrn braf aeth rhyw hanner cant i gyd allan ar y dŵr.
“Dw i wedi gwireddu breuddwyd, cael mynd allan ar y Fenai,” meddai un wraig. “Roedd y ferch acw a’i chariad yn cynilo i brynu eu tŷ cyntaf,” meddai un arall, “ond rŵan dw i’n ofni mai prynu cwch wnawn nhw !”
Roedd Ifor Williams o Lanfaglan yn credu y dylai mwy o bobl Caernarfon – ieuenctid yn enwedig – ymddiddori mewn gweithgareddau’r môr ac roedd am ddiolch i’r Clwb Iotio ym Mhorth yr Aur am drefnu’r digwyddiad. “Diolch hefyd,” meddai, “i berchnogion y cwch rhwyfo a’r tri chwch hwylio am roi cyfle i bawb yn ystod y dydd.” Mae’n fwriad i gynnal y digwyddiad eto y flwyddyn nesaf. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dechrau hwylio neu ffansi ymuno â chriw y cychod rhwyfo Celtaidd yna cysylltwch â sarah_llanfaglan@hotmail.com neu ffoniwch 07884 262505.