Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1080

Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1084
OBAMA A CARWYN YN CAEL CYFARFOD PLANT YR HENDRE! | Papur Dre

OBAMA A CARWYN YN CAEL CYFARFOD PLANT YR HENDRE!

Josh, Katie, Cai a Kian

Cafodd rhai o ddisgybl Ysgol yr Hendre ddechrau cyffrous i flwyddyn 6 trwy ennill taith i gyfarfod rhai o fawrion y byd gwleidyddol yng Nghaerdydd.

Ym mis Medi eleni cynhaliwyd uwchgynhadledd NATO yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd ac fel rhan o’r paratoadau cynhaliwyd cystadleuaeth i ysgolion cynradd trwy Gymru oedd yn herio plant i feddwl am yr hyn yr hoffent ei weld yn newid er mwyn greu byd tecach, a’u gyrru mewn neges fer at arweinyddion gwledydd NATO. O dan arweiniad Miss Eirian Williams, aeth blwyddyn 5 ati i feddwl am y newidiadau gan drafod materion pwysig megis llygredd, anghyfartaledd, rhyfela a newyn.

Ychydig ddyddiau cyn dechrau’r tymor daeth yr alwad i ddweud fod criw o’r ysgol wedi bod yn llwyddiannus yn y gystadleuaeth ac yn gwahodd Cai Rhun Jones, Joshua Edwards, Katie Toplis-Jones a Kian Thomas ar daith i Gaerdydd i gyfarfod â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn y Senedd.

Teithiodd y criw i Gaerdydd ac yn ôl ar y trên gan aros dros nos yng Ngwersyll yr Urdd yn y bae. Cawsant gyfle i grwydro o gwmpas y bae yn gweld can noedd o heddlu a’r holl baratoadau diogelwch ar gyfer yr ymwelwyr pwysig gan gynnwys llong ryfel anferth y Llynges.

Y bore canlynol, cyrhaeddodd Carwyn Jones a bu’n si arad â phlant o bob rhan o Gymru am eu negeseuon i arweinwyr NATO gan ganmol eu gweledigaeth bositif. Roedd y plant yn hynod falch ei fod yn cofio’r amser pan ddaeth i agor Ysgol yr Hendre yn swyddogol dair blynedd yn ôl! Wedi’r cyfarfod, roedd hi’n amser tynnu lluniau o flaen y cynulliad a chyfweliadau gyda’r wasg cyn cael taith o gwmpas siambr y Cynulliad.

Roedd gwahoddiad pellach i Cai i fynd ymlaen i’r Celtic Manor lle cafodd amser bythgofiadwy yn yr Uwchgynhadledd a chael sefyll drws nesa i Barack Obama wrth iddo draddodi araith!

Dyma negeseuon y pedwar i arweinwyr y byd
Joshua – Byswn i’n hoffi cael gwared o newyn
Katie – Pan fydda i’n fawr, gobeithio ni fydd plant yn cael eu cam-drin
Cai – Pan fydda i’n fawr, gobeithio fydd pobl ddim yn gwastraffu pres ac yn sicrhau fod dŵr a bwyd i holl blant y byd
Kian – Pan fydda i’n fawr, hoffwn i bawb gael eu trin yr un fath beth bynnag yw lliw eu croen