
Cafodd aelodau o Gwmni Cofis Bach groeso cynnes iawn ar eu hymweliad cyntaf o lawer â Llyfrgell
Prifysgol Bangor yn ddiweddar. Arweiniwyd y criw o blant, pobol ifanc a rhieni ar daith gyffrous iawn
o gwmpas corneli difyr iawn o’r llyfrgell gan Shan Robinson. Cafodd pawb fynd i weld y Stacs, y
Shankland gan sgwrsio efo myfyrwyr yn ogystal â swyddfa’r Is Ganghellor a oedd yn agoriad llygad i
bawb. Bydd cynhyrchiad sydd wedi ei gynllunio ar gyfer mis Ebrill 2015 yn defnyddio’r syniadau a’r
ysbrydoliaeth a gafwyd ar yr ymweliad, ac yno, yn y Llyfrgell ei hun y bydd Cwmni Cofis Bach yn
perfformio’r sioe. Mae hwn yn brosiect newydd sbon sy wedi golygu cydweithio agos rhwng Cofis
Bach a Phrifysgol Bangor.
“Dim ond megis dechrau ydi’r prosiect hwn,” meddai Delyth Murphy, Pennaeth Canolfan Ymestyn yn
Ehangach. “Mae’r Brifysgol eisiau agor ei drysau i bawb ac mae’n wych fod Cwmni Cofis Bach wedi
dod ar y daith gyffrous yma.”
Yn ôl Tammi Gwyn, Cydlynydd Creadigol Cofis Bach “Mae hwn yn gyfle gwych i wneud Prifysgol
Bangor yn fwy hygyrch i blant a phobol ifanc Peblig. Bydd syniadau’r plant a ysbrydolwyd gan yr
ymweliad cyffrous hwn yn cael eu datblygu yn ein clybiau drama, cerdd a chelf yn ystod y misoedd
nesaf. Yr uchafbwynt fydd dychwelyd yn llawn brwdfrydedd i lwyfannu’r gwaith ym mis Ebrill. Dan ni
hefyd yn gweithio gyda gwahanol unigolion o wahanol adrannau o’r Brifysgol er mwyn cynnig rhagor
o brofiadau i’r plant a’r bobol ifanc.”
Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Ganolfan Ehangu Mynediad/ Ymestyn yn Ehangach
Prifysgol Bangor, Cyngor Gwynedd, BBC Plant Mewn Angen, Cyngor Celfyddydau Cymru, Y Loteri
Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, The Tudor Trust. Diolch i bawb am eu cefnogaeth.