Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1080

Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1084
Pen-blwydd Hapus i Galeri’n 10 oed! | Papur Dre

Pen-blwydd Hapus i Galeri’n 10 oed!

Staff Galeri

GALERI YN ENNILL EI LE YN Y GYMUNED
Mae GALERI yn dathlu pen-blwydd yn 10 oed eleni ac fe aeth PAPUR DRE i holi Gwyn
Roberts, y Prif Weithredwr am y weledigaeth tu ôl i’r fenter a’i obeithion ar gyfer y dyfodol.
Mae’n credu fod pobl Caernarfon cystal â phobl unrhyw le arall.
‘Dyma i mi,’ meddai Gwyn Roberts, ‘oedd y sbardun tu ôl i’r syniad o sefydlu Cwmni Tref
Caernarfon a newidiodd ei enw i Galeri Caernarfon yn 2007. Roedd y Dre yn methu yn y
nawdegau gydag adeiladau gwag o gwmpas y lle ac mi oedd hyn yn creu delwedd o fethiant.
Roedd fel petai bys yn cael ei bwyntio at bobol y dre yn deud ‘Dydach chi ddim digon da’.
Mynd ati i dorri’r cysylltiad seicolegol yna rhyngon ni fel pobol a’r sefyllfa o fethiant roeddan
ni ynddi oedd y rheswm dros sefydlu Cwmni Tref.
‘Dyna dwi’n gobeithio mae llwyddiant y 10 mlynedd dwytha wedi ei ddangos. Dydan ni yma
yng Nghaernarfon ddim yn fethiant. Mae GALERI wedi cael clod o bob rhan o’r byd a phobl
o’r ardal yma, sydd yn gweithio a chyfrannu at Galeri, sydd wedi sicrhau hynny.’
Parhad o’r gwaith a gychwynnwyd yng nghanol y dre gan Gwmni Tref Caernarfon yw Galeri.
Bellach, gweithredu o dan enw Galeri Caernarfon yn unig mae’r Cwmni. Arwydd amlwg o
lwyddiant y naill fenter a’r llall yw bod pob adeilad o gwmpas y dre sydd ym mherchnogaeth
Galeri, a’r unedau o fewn Galeri ei hun, yn llawn.
O ran llwyddiant Galeri dywed Gwyn ei fod yn teimlo bod mwy o gynhesrwydd gan bobl Dre
heddiw tuag at Galeri nag ar unrhyw adeg yn y gorffennol. ‘Dwi’n teimlo bod Galeri wedi ei
dderbyn fel rhan o’r dre’ ma erbyn hyn ac mae’r gymuned yn gwybod pam rydan ni yma a
be’ rydan ni’n neud,’ meddai. ‘Cyfrannu at gynnal digwyddiadau o gwmpas y dre fel
penwythnos Bryn Terfel yn y Castell a sefydlu Sbarc yn 1999 roddodd y sylfaen ar gyfer
adeiladu Galeri ac mae’r cysylltiad efo’r gymuned leol mor bwysig heddiw ag erioed. Mi
hoffwn feddwl bod pobol dre yn falch o’r lle yma fel rydan ni yn falch o allu darparu
gweithgareddau a chyfleoedd yma i bawb”
Er dathlu llwyddiant y deng mlynedd dwytha nid oes llaesu dwylo am fod ar gyfer y dyfodol.
‘Mae hen ddigon o waith i’w wneud eto er bod rhywfaint wedi ei gyflawni yn barod,’ meddai
Gwyn. ‘Rydym wedi cyd-weithio hefo Cyngor Gwynedd ar gynllun ‘Cymunedau Cyfoes’ –
prosiect gwerth hanner miliwn dros y 3 blynedd nesaf. Caernarfon oedd un o ddim ond saith
ardal yng Nghymru a lwyddodd i ddenu yr arian yma yn sgil cystadleuaeth gan Gyngor
Celfyddydau Cymru oedd wedi gwahodd cymunedau i gynnig cynlluniau. Pwrpas y cynllun
yw cynnwys creadigrwydd a phrofiadau pobol dre yn y broses adfywio drwy gyfrwng y
celfyddydau gan droi’r broses adfywio traddodiadol ar ei waered.
‘Hefyd mae bwriad i ymestyn adeilad Galeri er mwyn creu dwy sgrin sinema ychwanegol
yma. Rydym wedi cael ymrwymiad o filiwn a hanner o bunnau gan Gyngor y Celfyddydau
trwy’r loteri ar gyfer y prosiect yma a rwan ein tasg ni ydi chwilio am swm cyfatebol. Os
byddwn yn llwyddiannus byddwn yn adeiladu estyniad i Galeri a fydd yn creu dwy sgrin
ychwanegol a datblygu arlwy sinema llawer mwy proffesiynol yma.
ESTYN ALLAN
Mae Galeri’n llawer mwy na Chanolfan Greadigol, mae’n cynnig cartref
hefyd i nifer o gwmnïau llwyddiannus yn y ganolfan ei hun a hefyd mewn
adeiladau ar hyd ac ar led y dre. Mae Galeri felly’n cyfrannu’n sylweddol at
economi tref Caernarfon. Aeth Papur Dre i holi rhai o’r cwmnïau hyn.
DELWEDD
Cwmni creu gwefannau yw Delwedd ac maen nhw wedi bod yn denantiaid
yn y Galeri ers Rhagfyr 2008. Ers symud i’r Galeri mae’r cwmni wedi tyfu i
gyflogi chwech o bobl amser llawn ac wedi symud i mewn i un o
swyddfeydd mwyaf yr adeilad gyda golygfa hardd o’r Doc a’r Fenai. Teimla’r
cwmni fod yr adeilad a’r swyddfa ei hun wedi bod yn ffactor bwysig yn eu
llwyddiant gan fod amryw o’u cleientiaid yn rhoi sylwadau cadarnhaol am y
lleoliad a’r cyffro creadigol sydd o fewn yr adeilad.
O’r chwith i’r dde: Meic Roberts, Jen Roberts, Aled Roberts, John Davies,
Jemma Evans, Ceri Roberts
CWMNI CYFATHREBU CAMBRENSIS
Un o’r tenantiaid cyntaf yn Galeri oedd Cwmni Cyfathrebu Cambrensis – ac
maen nhw’n dal yno heddiw.
‘Yn ôl yn 2005,’ meddai Carl Russell Owen, Rheolwr swyddfa Cambrensis,
‘roeddem yn chwilio am leoliadau addas ar gyfer swyddfa newydd yng
ngogledd Cymru pan glywsom am y ganolfan newydd hon yn cael ei
hadeiladu yng Nghaernarfon. Daethom i fyny o’n prif swyddfa yng
Nghaerdydd i weld y safle – fe arwyddon ni’r les fwy neu lai yn syth.
Rwyf wrth fy modd gyda’r awyrgylch, y ‘buzz’ cyson sydd wastad o gwmpas
y lle ac mae’r adnoddau a chyfleusterau swyddfa heb eu hail. Er bod
gennym fand-eang cyflym iawn, digon o lefydd parcio, gwasanaeth
derbynfa ac ystafelloedd cyfarfod gwych – dwi’n credu mai’r un peth sy’n
sefyll allan yw’r lleoliad ger yr harbwr. Mae pawb sy’n cerdded i mewn i
swyddfa Cambrensis yn rhyfeddu at y golygfeydd!’
Carl Russell Owen
BLODYN TATWS
Rydan ni wedi bod yma ar Stryd y Plas ers pum mlynedd a hannar rwan ac
mae’r busnas yn mynd yn dda iawn. Dwi’n ffodus o gael siop mewn stryd neis
fel hon efo siopau da o’n cwmpas. Mae yn le ideal. Mae pawb wedi bod yn
garedig ac yn ffantastig efo ni ers i ni symud yma a da ni isio diolch i bawb
am eu cefnogaeth.
Lynda Williams
TINOPOLIS
Mae Tinopolis wedi bod yn un o denantiaid y Galeri ers i’r adeilad agor. Ar ôl
cyfnod mewn un o’r adeiladau allanol ar Stad y Faenol roedd hi’n braf iawn i
ni symud i rywle mor brysur a chreadigol. Mae’r swyddfa yn berffaith i ni yma
– y cyfle i fod yng nghanol digwyddiadau Galeri a beth sy’n well na dim ydi
fod pobl yn gallu galw heibio wrth basio. Yn ogystal dyma gartref y rhaglen
HENO yn y gogledd ac mae’r rhaglen wedi darlledu yn fyw o Galeri ar sawl
achlysur gyda digwyddiadau amrywiol y ganolfan yn cynnig eitemau difyr i’n
gwylwyr. Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu’r 10 gyda Galeri a gweddill y
tenantiaid.
Dafydd Gwyn, Elin Fflur, Sion Griffiths, Delyth Wyn, Gerallt Pennant, Menna
Medi (ddim yn y llun – Dyfan Davies)
CANOLFAN GERDD WILLIAM MATHIAS
Mae yna berthynas glos wedi bodoli rhyngon ni fel Canolfan a Galeri ers y
dyddiau cynnar iawn. Cyn agor Galeri roedd y Ganolfan wedi ei lleoli mewn
tŷ ar Stryd yr Eglwys, Caernarfon.
Ers symud i Galeri rydym wedi gallu ehangu’r ddarpariaeth i gynnig gwersi
cerdd un-i-un mewn ystafelloedd dysgu ‘sound proof’, sefydlu corau ac
ensemblau offerynnol, cynnal Gwyliau gan greu gwaith i gerddorion
proffesiynol, a llawer mwy!
Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae’r Ganolfan yn dal i ffynnu yma, ac
yn falch iawn o gyfrannu at fwrlwm creadigol yr adeilad.
Gwydion Davies a Nia Wyn Hughes
CUTTING PARLOUR
Mae’r busnes wedi bod yn yr adeilad yma ers 17 o flynyddoedd a dwi wedi
bod yn berchennog yma ers 15 mlynedd. Dan ni yn cydweithio yn dda efo
Cwmni Galeri. Fysan ni ddim wedi gallu cael gwell lle. Mae’r adeilad yn siwtio
ni i’r dim. Mae’n le hwylus i bobol leol efo man parcio wrth ymyl ac i
ymwelwyr sydd yn pasio ar eu ffordd mewn i’r dre o’u bysiau gwyliau. Da ni
yn gobeithio bod yma am flynyddoedd eto.
Sandra Parry
IARD
Hoffai Siop Iard ddymuno pen-blwydd hapus iawn i Galeri yn 10 oed. Fel un o denantiaid yr adran
eiddo yno rydym yn gwerthfawrogi’r cyfle o cael siop a gweithdy yng nghanol y dref. Roedd yn bleser
cael hyd i ofod i gychwyn ein menter newydd gyda landlord oedd yn hapus i wrando ar ein gofynion
a’r hyder i gefnogi menter ychydig yn wahanol. Mae’n amlwg bod gan Galeri weledigaeth glir am
beth sy’n dda i Gaernarfon. Gobeithiwn y bydd y 10 mlynedd nesaf mor llwyddiannus a dymunwn
bob lwc iddynt gyda pgrosiectau newydd”
Angela, Ann a Dave

Posted from Sheffield, England, United Kingdom.