Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1080

Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1084
Hysbys | Papur Dre

GŴYL DDEWI ARALL – DEWCH I DDATHLU YN DRE!

images[2]

Mae Gŵyl Arall yn boblogaidd iawn yn dre yn yr haf erbyn hyn ac felly mae’r trefnwyr wedi penderfynu trefnu gŵyl fach dros benwythnos Gŵyl Ddewi. Dyma’r digwyddiadau difyr sydd ar y gweill.NOS IAU 27 Chwefror 8pm Clwb Canol Dre am ddim:PREMIÈRE: IWAN LLWYD (C) Y cyfle cyntaf i weld rhaglen deledu arbennig sy’n cofio’r bardd Iwan Llwyd. Gyda pherfformiadau o rhai o’i gerddi gan gerddorion gwadd.NOS WENER 28 Chwefror7pm Galeri £4 – £6: FFILM: I’R BÛR HOFF BAU (12A) (Gweler tudalen 12)9pm Clwb Canol Dre £9/8* GEORGIA RUTH, KIZZY A SARON *Gostyngiad i’r rhai sy’n dangostocyn i’r ffilm.10pm Tafarn yr Anglesey, Y Moniars (am ddim)Gwesty’r Castell – Adloniant byw (am ddim)DYDD SADWRN10.00am Galeri – Ffilm: The GOSPEL OF US (12A) £5.50/£310.30am Clwb Canol Dre £5 (T) ANGHARAD PRICE : TH Parry Williams

11.00 am GORYMDAITH GŴYL DDEWI – Ymgynnull y tu ôl i Morrison’s am 11 – Ymunwch â’r orymdaith liwgar i’r Castell i ddathlu Dewi, nawdd sant Cymru. (gweler manylion Tudalen 3)12.30pm Clwb Canol Dre £5 PIERINO ALGIERI: Eidalwr yn Eryri (T) – Sgwrs a lluniau yng nghwmni’r ffotograffydd. 1.30pm Galeri Ffilmiau byrion i’r plant iau £22pm Clwb Canol Dre £5 BLASU: Manon Steffan Ros a Ffion Dafis (T) Cyfle i fwynhau pigion o ‘Blasu’.2pm Gwesty’r Castell £5 RHYS MWYN (C) Taith gerdded hanesyddol yng nghwmni’r archeolegydd difyr.3.30pm Clwb Canol Dre £5 DR TREVOR DINES (T) Sgwrs yng nghwmni’r botanegydd a chyflwynydd rhaglen Channel 4, Wild Things.5pm Clwb Canol Dre £6 (C) MIKE PARKER: Yn dilyn llwyddiant ‘The (Very) Rough Guide to Wales’, mae Mike yn troi ei sylw at yr iaith ei hun. Bydd yn archwilio agweddau hanesyddol a chyfoes tuag at y Gymraeg. Cythruddol, gwybodus, digrif.NOS SADWRN 7.30pm Galeri, NOSON WOBRWYO PICS £5/£38pm Llofft Gwesty’r Castell £7 (C) PETHE BYCHAIN Dathlu gyda geiriau ac ar gân yng nghwmni’r Grŵp gwerin Triawd a’r beirdd Ifor ap Glyn, Karen Owen, Arwel Pod Roberts a Nia Môn. DYDD SUL10.30am (C) a 12.30pm (S) Cerflun Lloyd George £5 TYRD AM DRO CO’ (C) Emrys Llewelyn Jones sy’n arwain y daith hanesyddol o gwmpas y dre go iawn.10.30am ymlaen, Galeri TOY STORY 1,2,3ALLWEDD C – Digwyddiad Cymraeg; T- Cyfieithu i’r Saesneg; S –Digwyddiad Saesnegwww.gwylarall.com@gwylarall

GŴYL DDEWI ARALL – DEWCH I DDATHLU YN DRE

DIRPRWY FARNWR RHANBARTH IEUENGAF PRYDAIN

Kelly

Enillodd Kelly Hynes, sydd wedi ei geni a’i magu yng Nghaernarfon, radd yn y gyfraith o Brifysgol Aberystwyth cyn mynd ymlaen i wneud cwrs Ymarfer Cyfreithiol yng Nghaer.
Gwnaeth ei herthyglau yn Pritchard Jones Lane, sydd a’u swyddfa yng Nghaernarfon, am 2 flynedd a pharhau i weithio yno fel cyfreithiwr am 6 blynedd. Mae bellach yn gydymaith gyda cwmni cyfreithwyr Gamlins ac er ei bod yn gweithio o’u swyddfa ym Mharc Menai, Bangor, mae’n dal yn fwy na pharod i gynrychioli cleientiaid o Gaernarfon.
Mae Kelly wedi arbenigo mewn gwaith llys a theulu ynghyd â gwaith eiddo a phrofiant a heb os bu hynny’n help mawr iddi wrth iddi ymgeisio i ddod yn Ddirprwy Farnwr Rhanbarth. Bu’n broses hir a llafurus ond bu’n werth yr ymdrech gan fod Kelly erbyn hyn yn eistedd fel dirprwy farnwr oddeutu dwywaith y mis. Ac er ei bod yn cyfaddef ei bod yn rhyfedd ar adegau, a hithau mor gyfarwydd â bod ar ochor arall y fainc, mae Kelly wrth ei bodd yn ei rôl newydd.
Ac o fywyd proffesiynol prysur i fywyd personol prysur. Fe briododd Kelly ychydig dros flwyddyn yn ôl ac ers hynny mae hi a’i gwr Robin wedi bod yn brysur yn symud i mewn i’w cartref newydd yng Nghaeathro. A phan mae’n cael munud sbâr mae wrth ei bodd yn cymdeithasu gyda ffrindiau a theulu, teithio, bwyta allan a chadw’n heini.
Heb os mae Caernarfon yn falch o longyfarch un o gyfreithwyr mwyaf addawol yr ardal ar ei llwyddiant.

Gafael Llaw i godi arian

Gafael Llaw

Mae elusen newydd wedi cael ei sefydlu yng Nghaernarfon er mwyn cefnogi plant a phobl ifanc efo cancr. Bydd “Gafael Llaw” yn cynnal gweithgareddau i godi arian tuag at Ward Dewi (Ysbyty Gwynedd), Ysbyty Alder Hey (Lerpwl) a’r elusen Clic Sargent  gan gychwyn gyda ‘HOWZAT CO’ ar Sul Gŵyl y Banc ddiwedd mis nesa. Ar Awst 25, yng nghlwb rygbi Dre, y prif atyniad fydd gemau criced rhwng cymdeithasau a chwmnïau lleol. Ond fe fydd na hefyd adloniant amrywiol, bandiau pop, disco ac ocsiwn (yn cynnwys eitemau gwerthfawr – o’r byd chwaraeon yn bennaf).

Yn ôl Cadeirydd Gafael Llaw, Iwan Trefor Jones, mae nifer dda o bobl eisoes wedi cytuno i fod yn rhan o’r hwyl ar Ŵyl y Banc.

“Mae’n argoeli i fod yn ddiwrnod da yn y Clwb Rygbi,” meddai “a gobeithio y daw pobl yn eu cannoedd i gefnogi’r achlysur a’r elusen newydd.”

Cofiwch y dyddiad felly, Awst 25 ar y Morfa. Am ragor o wybodaeth am “HOWZAT CO” cysylltwch ag ysgrifennydd Gafael Llaw, Trystan Gwilym: 07717 407630.

Tafarn Y Black Boy

black2

Yn Nhafarn y Black Boy, Caernarfon yng Ngogledd Cymru, rydym wedi bod yn cynnig llety a bwydo’r radd flaenaf am fwy na phum can mlynedd. Black BoyMae’r dafarn wedi’i lleoli yng nghanol Tref Fwrdeistref Frenhinol Caernarfon, o fewn muriau canoloesol y dref, ac mae gan y gwesty ddigonedd i’w gymeradwyo gyda thanau agored tanbaid, distiau derw a’r holl gymeriad Cymreig sy’n nodweddiadol o’i oed a’i leoliad.

Dim ond munud i ffwrdd ar droed mae castell enwog Caernarfon sy’n dyddio o’r 13eg ganrif; Safle Treftadaeth Byd godidog sy’n llawn presenoldeb. Naw can llath ymhellach draw mae man cychwyn Rheilffordd Ucheldir Cymru, sy’n mynd â chi ar daith drwy olygfeydd rhyfeddol Parc Cenedlaethol Eryri.

Tafarn y Black Boy Inn | Stryd Pedwar a Chwech | Caernarfon | Gogledd Cymru | LL55 1RW

01286 673604 / 676115  | www.Black-Boy-Inn.com| office@black-boy-inn.com

Cyfres sgwrsio newydd [Rondo]

rondo

Mae gan bawb ei stori a John Hardy sydd yn gwahodd pobl i adrodd eu hanesion difyr mewn cyfres sgwrsio newydd ar S4C.

Cofiwch wylio pob nos Lun am 9.30