Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1080

Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1084
Amdanom Ni | Papur Dre
Warning: count(): Parameter must be an array or an object that implements Countable in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-includes/post-template.php on line 284

Warning: count(): Parameter must be an array or an object that implements Countable in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-includes/post-template.php on line 284

Warning: count(): Parameter must be an array or an object that implements Countable in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-includes/post-template.php on line 284

Amdanom Ni

Croeso i wefan PAPUR DRE!

Ar y wefan hon, cewch flas ar rai o straeon, newyddion ac eitemau ein cylchgrawn misol, yn ogystal ag ambell beth ychwanegol sydd ddim yn ymddangos yn y papur. Mae modd i chi danysgrifio hefyd i fersiwn digidol o PAPUR DRE, i chi gael ei ddarllen unrhyw bryd, unrhyw le.

Syniad gwreiddiol Glyn a Rhian Tomos oedd sefydlu PAPUR DRE. Roedd hynny nôl yn 2002. Nid oedd papur o’r fath yn bodoli yng Nghaernarfon. Y cam nesaf oedd rhannu’r syniad mewn cyfarfod cyhoeddus gyda chyfeillion yr iaith o fewn y dre a’r canlyniad oedd mynd ati i lansio’r papur. Fel rhagflas cyhoeddwyd rhifyn arbennig ym mis Mehefin y flwyddyn honno a’i ddosbarthu am ddim i bob cartref yn y dre. Yna ym mis Hydref 2002 fe gyhoeddwyd y rhifyn cyntaf a deng mlynedd yn ddiweddarach ym mis Gorffennaf 2012 cyhoeddwyd y canfed rhifyn. Bellach mae gan y papur gylchrediad o 1,300 o ddarllenwyr.

Rhoddwyd enw PAPUR DRE i’r papur oherwydd dre mae pawb yn galw Caernarfon. Cytunwyd y byddai’r papur  yn darlunio bywydau pobl dre a dyna pam fod y papur yn defnyddio’r logo ‘PAPUR DRE I BOBOL DRE’. Dros y deng mlynedd diwethaf mae’r pwyslais wedi bod ar gyhoeddi papur bywiog sydd yn adrodd yn ddifyr am hynt a helynt pobl y dre yn ogystal ag adlewyrchu hanes y dref hynod hon. Cyhoeddir deg rhifyn y flwyddyn, Hydref – Gorffennaf.

Gwaith tîm ydi cyhoeddi PAPUR DRE wedi bod dros y deng mlynedd diwethaf ac mae cyfraniad pawb yr un mor bwysig i lwyddiant y papur. Tasg y Bwrdd Golygyddol bob mis yw sicrhau bod yr 20 tudalen yn cael eu llenwi ac wedi i’r papur ddod o’r wasg mae’n cael ei blygu ac yna’i ddosbarthu naill ai o ddrws i ddrws neu yn y siopau lleol. Rhwng popeth mae tua 60 o wirfoddolwyr yn gysylltiedig â’r papur o fis i fis. Mae’r rhain yn cynnwys aelodau Bwrdd Golygyddol a’r Pwyllgor Busnes, plygwyr, dosbarthwyr o ddrws i ddrws, colofnwyr misol a darllenwyr PAPUR DRE AR DÂP sydd yn wasanaeth ar gyfer pobl sydd â nam golwg.

Fel unrhyw dre arall mae Caernarfon dros y deng mlynedd diwethaf wedi newid ac mae PAPUR DRE wedi bod wrthi yn ddiweddar yn ystyried sut mae cyflwyno’r papur i’r oes newydd digidol. O ganlyniad sefydlwyd y wefan newydd hon a lansiwyd PAPUR DRE ar ei newydd wedd ym mis Chwefror. Mae’r datblygiadau hyn wedi bod yn bosibl oherwydd cefnogaeth prosiect NESTA sef partneriaeth rhwng Cwmni Da, Papur Dre a Choleg Menai. Mae’r prosiect yn rhan o gynllun ‘Destination Local’ sy’n cael ei redeg gan NESTA, ‘National Endowment for Science, Technology and the Arts’ gyda’r bwriad o ddatblygu gwasanaethau hyper-lleol drwy Brydain gyfan. Bellach rydym yn symud i gyfnod newydd cyffrous ac os oes unrhyw un yn dymuno ymuno â ni i weithio ar y papur neu ar y wefan yna mae pob croeso i wneud hynny. Gellir e bostio Glyn Tomos, Cadeirydd Bwrdd Golygyddol ar glyn@papurdre.net er mwyn gweithio ar y papur neu gyda Ffion Jones, Golygydd y Wefan ar ffion@papurdre.net

Dyma gyfle gwirioneddol i ymuno â’r papur ar adeg cyffrous. Dewch i ymuno efo ni.